Nod y prosiect Coetir Clwyd yw rhoi cymorth i fentrau bychain trwy gynnig iddyn nhw'r modd i roi prawf ar ac arddangos dulliau newydd ac arloesol o ddefnyddio a marchnata coetiroedd a chynhyrchion coed mewn modd cynaliadwy. Yn ogystal â chynnig cymorth uniongyrchol i sector y busnesau coetir yng nghefn gwlad Sir Ddinbych a chefn gwlad Sir y Fflint, mae'r prosiect yn fodd....
Mae Prosiect Adfywio Coetiroedd Adventa wedi cyfuno elfennau o ymchwil, menter gymdeithasol, busnes gwledig lleol ac addysg. Darparwyd hyfforddiant yng ngweithdy Coed Gwent ar gyfer y Farchnad Lafur Drosiannol lle'r cynhyrchir eitemau o gelfi o ansawdd uchel i'r ardd ac eitemau ar gyfer y cartref neu fusnes, allan o bren cynaliadwy lleol....
Erbyn 2008 roedd y prosiect wedi helpu pedwar meithrinfa leol ledled Powys i ddechrau eu busnes neu i'w ehangu ac i gydweithio trwy hybu a gwerthu coed â tharddiad lleol. Fel grwp, mae Meithrinfeydd Coed Powys yn arbenigo mewn tyfu coed â tharddiad lleol cynhenid o ansawdd uchel, sy'n addas ar gyfer Powys...
Gwersi a ddysgwyd o brosiectau a gyflawnwyd ym Mhowys, Sir Fynwy, a Sir y Fflint a Sir Ddinbych